Annwyl gyfaill,
Gobeithio eich bod yn cadw’n iach ac yn ddiogel.
Mae’r Comisiynydd eisiau clywed gan bobl hŷn yn eich cymuned am eu profiadau o’r cyfyngiadau symud a’r effaith mae’r feirws yn cael ar eu bywydau.
Bydd hyn yn helpu i arwain a siapio ein gwaith wrth i ni symud ymlaen i’r cam nesaf, beth bynnag fydd hwnnw, a bydd yn galluogi Heléna i rannu profiadau a phryderon pobl hŷn â Llywodraeth Cymru.
Mae ar Heléna eisiau clywed am y math o broblemau, anawsterau neu rwystrau yr ydych yn ymwybodol ohonynt yn ogystal a’r pethau da sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eich cymuned.
Byddem yn falch iawn o’r cyfle i glywed gennych chi fel cynrychiolydd o’ch Fforwm 50+.
Rydym yn bwriadu cynnal y cyfarfodydd hyn ar-lein trwy Zoom trwy eich cyfrifiadur neu ar eich ffôn. Byddwn yn rhoi’r cyfarwyddiadau llawn ynghylch sut mae ymuno â’r cyfarfod yn nes at y dyddiad.
Os hoffech chi gymryd rhan llenwch y pôl doodle (https://doodle.com/poll/hg44an8wufy3byfm) i roi gwybod i ni pryd fyddwch chi ar gael.
Byddwn yn trefnu’r cyfarfod ar gyfer y dyddiad/amser sydd fwyaf cyfleus i’r mwyafrif.
Gobeithio byddwch chi’n gallu ymuno â ni. Os na fydd y dyddiad/amser yn hwylus i chi, gallwn eich sicrhau ein bod yn bwriadu cynnal rhagor o
gyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn i ni gael trafodaethau pellach gyda’r rheini na fyddant yn gallu cymryd rhan y tro hwn.
Cofion gorau
Dear friend,
I hope this finds you safe and well.
The Commissioner wants to hear from older people in your community about their experiences of lockdown and the impact the virus is having on their lives.
This will help to guide and shape our work as we move forward into the next phase, whatever that looks like, and will enable Heléna to share older people’s experiences and concerns with the Welsh Government.
Heléna would like to hear about the kinds of issues, difficulties or barriers you are aware of as well as the good things that have made a positive difference in your community.
We’d really welcome the opportunity to hear from you as a representative from your 50+ Forum.
We’re planning to hold these meetings online via Zoom, which you can access using your computer or by calling in with your phone. We’ll provide full instructions on how to join the meeting nearer the date.
If you’d like to participate please could you complete the doodle poll here (https://doodle.com/poll/hg44an8wufy3byfm) to let us know your availability. We will arrange the meeting for the date/time that is most convenient for the majority.
We do hope that you can join us. Should the date/time decided upon not be convenient for you, please rest assured that we intend to hold further meetings at a later date so we can have further discussions with those not able to attend this time.
Best wishes
Heneiddio yn Dda / Ageing Well
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru / Older People’s Commissioner for Wales
Adeiladau Cambrian / Cambrian Buildings
Sgwâr Mount Stuart / Mount Stuart Square
Caerdydd / Cardiff, CF10 5FL
Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi // We welcome receiving correspondence in Welsh, we will respond to correspondence in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to delay
Ffôn / Tel: 029 2044 5030
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg // We welcome calls in Welsh
Comment here