Home Age Adroddiad Uwchgynhadledd Credyd Pensiwn / Pension Credit Summit Report

Adroddiad Uwchgynhadledd Credyd Pensiwn / Pension Credit Summit Report

by Martyn Jones
0 comment

Sgroliwch lawr ar gyfer y Saesneg / Please scroll down for English

 

Diolch i chi unwaith eto am ddod i’m Huwchgynhadledd Credyd Pensiwn ym mis Rhagfyr. Mae’n bleser gennyf atodi copi o Adroddiad yr Uwchgynhadledd, sy’n cynnwys prif bwyntiau trafod a chanfyddiadau.

 

Fe gofiwch, pwrpas yr uwchgynhadledd oedd nodi ffyrdd y gallwn estyn allan at bobl hŷn yn fwy effeithiol er mwyn codi ymwybyddiaeth am Gredyd Pensiwn, ac annog a chefnogi pobl hŷn i hawlio’r hyn sydd arnynt eu hangen. Amcangyfrifir bod hyd at 80,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn colli allan ar Gredyd Pensiwn a’r hawliau ehangach y mae’n eu datgloi.

 

Gydag 1 person hŷn o bob 5 yng Nghymru yn byw mewn tlodi erbyn hyn, a’r argyfwng costau byw yn golygu bod miloedd yn fwy yn wynebu biliau amhosibl, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl hŷn yn cael y Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo.

 

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffyrdd y gellid gwella’r iaith a’r dulliau cyfathrebu sy’n ymwneud â Chredyd Pensiwn, a gwella’r ffyrdd y gallwn fynd i’r afael â rhwystrau a stigma, yn ogystal â chreu darlun clir o’r hyn y dylai cyngor a chymorth fod. Rwy’n gobeithio y bydd yn adnodd defnyddiol i gefnogi unrhyw waith y gallech fod yn ei gynllunio i ymgysylltu â phobl hŷn a chodi ymwybyddiaeth ynghylch Credyd Pensiwn.

 

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi’r camau rwy’n galw amdanynt gan Lywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau – gan gynnwys defnyddio data’n fwy effeithiol i ganfod pobl hŷn gymwys a chynnal rhagor o ymgyrchoedd i annog pobl i hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo. Mae hefyd nodi’r camau y byddaf yn eu cymryd fel Comisiynydd i gynyddu nifer y bobl sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru.

 

Yn ogystal â hyn, rwyf am ysbrydoli hyd yn oed mwy o weithredu ledled Cymru drwy dynnu sylw at arferion da fel rhan o hyb rwy’n ei datblygu ar fy ngwefan, ac annog unigolion a sefydliadau i wneud Addewid Credyd Pensiwn, gan dynnu sylw at y camau y byddant yn eu cymryd – pa mor fawr neu fach – i helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn ar eu colled.

 

Os hoffech chi rannu unrhyw arferion da rydych chi wedi’u cyflwyno neu rai rydych yn gwybod amdanynt, ac y gellid eu cynnwys yn yr hyb, cysylltwch â [email protected].

 

Neu ewch i https://comisiynyddph.cymru/newyddion/gwnewch-eich-addewid-credyd-pensiwn/ i gael gwybod mwy am sut gallwch chi wneud eich Addewid Credyd Pensiwn ac i weld rhai enghreifftiau o’r Addewidion a wnaed gan randdeiliaid ledled Cymru hyd yma.

 

Fel y mae’r adroddiad yn tynnu sylw ato, drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn estyn allan at bobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o fywydau drwy helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn sy’n byw ar yr incwm isaf – llawer ohonynt ymhlith aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas – yn colli’r cymorth y mae ganddynt hawl iddo.

 

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.

 

 

 

 

Heléna Herklots CBE

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

 

Thank you once again for attending my Pension Credit Summit in December. I am pleased to attach a copy of the Summit Report, which captures key discussion points and findings.

 

As you will recall, the purpose of the summit was to identify ways we can reach out to older people more effectively in order to raise awareness about Pension Credit, and encourage and support older people to claim what’s theirs as it is estimated that up to 80,000 older people in Wales are missing out on Pension Credit and the wider entitlements it unlocks.

 

With nearly 1 in 5 older people in Wales now living in poverty, and the cost-of-living crisis leaving thousands more facing impossible bills, it’s more important than ever that older people receive the Pension Credit they are entitled to.

 

The report highlights the ways that language and communications relating to Pension Credit could be improved, the ways we can tackle barriers and stigma, and what effective advice and support for older people looks like, and I hope it will be a useful resource to support any work you may be planning to engage with older people and raise awareness about Pension Credit.

 

The report also sets out the action I am calling for from the Welsh Government and Department of Work and Pensions – including using data more effectively to identify eligible older people and delivering further campaigns to encourage people to claim what they are entitled to – as well as the action I will be taking forward as Commissioner to increase Pension Credit uptake in Wales.

 

In addition to this, I want to inspire even more action throughout Wales by highlighting good practice as part of a hub I am developing on my website and encouraging individuals and organisations to make a Pension Credit Promise, highlighting the action they will take – however big or small – to help ensure older people do not miss out.

 

If you would like to share any good practice you have delivered, or know of, that could be included within the hub, please contact [email protected].

 

Or please visit https://olderpeople.wales/news/pension-credit-promise/ to find out more about how you can make your Pension Credit Promise and to see some examples of the Promises made by stakeholders throughout Wales to date.

 

As highlighted in the report, we can all play a part in reaching out to older people in communities throughout Wales and make a positive difference to thousands of lives by helping to ensure that older people surviving on the lowest incomes – many of whom are amongst the most vulnerable members of society – do not miss out on the support they’re entitled to.

 

Many thanks for your support.

 

 

 

 

Heléna Herklots CBE

Older People’s Commissioner for Wales

 

Adeiladau Cambrian / Cambrian Buildings
Sgwâr Mount Stuart / Mount Stuart Square
Caerdydd/Cardiff, CF10 5FL

 

Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi // We welcome receiving correspondence in Welsh, we will respond to correspondence in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to delay.

Ffôn / Tel: 03442 640 670

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg // We welcome calls in Welsh

https://comisiynyddph.cymru // https://olderpeople.wales

 

Dilynwch ni ar Twitter @comisiwnphcymru / Follow us on Twitter @talkolderpeople

Cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru - Adroddiad Uwchgynhadledd
Increasing Pension Credit Uptake in Wales - Summit Report

You may also like

Leave a Comment

This site uses Akismet to reduce spam. Learn how your comment data is processed.

©2022 – All Right Reserved. Designed by Martyn.