Ymddygiad amddiffyn rhag yr Haul yng Nghymru
Gall methu â defnyddio eli haul i amddiffyn y croen rhag difrod gan yr haul a gadael i’r croen ddod i gysylltiad â phelydrau niweidiol e.e. defnyddio gwelyau haul, fel ei gilydd fod yn niweidiol i’r croen. Er gwaethaf sawl ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth o ymddygiad diogel yn yr haul er mwyn amddiffyn rhag canser y croen, nid yw llawer o bobl yn gwybod sut mae amddiffyn eu hunain rhag gormod o haul niweidiol. Nod yr astudiaeth hon oedd deall gwybodaeth y cyhoedd ynghylch diogelwch bod yn yr haul, a llywio strategaeth atal canser y croen i’r dyfodol.
Cwblhaodd y cyfranogwyr holiadur am wybodaeth ynghylch gofal yn yr haul, llosg haul ac agweddau at ddefnyddio gwelyau haul. Datblygwyd yr holiadur trwy gydweithrediad y tîm HWW a gweithwyr proffesiynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Ein canfyddiadau;
O’r 6,386 o gyfranogwyr a ymatebodd i’r astudiaeth hon, dywedodd y mwyafrif eu bod yn defnyddio eli haul, yn gwisgo het, neu’n aros yn y cysgod i’w hamddiffyn eu hunain rhag yr haul. Fodd bynnag, dim ond un o bob pedwar ddywedodd eu bod yn defnyddio eli haul bob dydd, a dywedodd dros hanner y cyfranogwyr eu bod wedi cael llosg haul yn ystod y flwyddyn flaenorol. Ar ben hynny, awgrymodd cyfranogwyr a oedd wedi defnyddio gwely haul i gael lliw haul fod hynny’n gwneud iddyn nhw deimlo’n iachach neu’n fwy deniadol, ac roedd pobl iau yn fwy tebygol o ddweud hynny, er gwaethaf peryglon defnyddio gwely haul.
Er bod pobl yn ymwybodol o fanteision amddiffyn rhag yr haul, mae angen rhoi blaenoriaeth i ehangu’r defnydd o eli haul a lleihau’r defnydd o welyau haul mewn polisïau gan yr Adran Iechyd i’r dyfodol.
Comment here